P-05-807 Dylid adolygu a newid y canllawiau o ran gwobrau am bresenoldeb mewn ysgolion yng Nghymru
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Laura Charles-Price ac ystyriwyd am y tro cyntaf yn ystod Ebrill 2018, ar ôl casglu 123 o lofnodion ar-lein.
Geiriad y ddeiseb
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i adolygu unrhyw ganllawiau y mae’n eu rhoi o ran gwobrau am bresenoldeb mewn ysgolion yng Nghymru.
Mae llawer o blant ledled Cymru yn dioddef o salwch cronig sy'n effeithio ar eu presenoldeb yr ysgol. Gall plentyn golli ysgol oherwydd y salwch ei hun neu oherwydd apwyntiadau ysbyty y mae'n rhaid iddo fynd iddynt mewn cysylltiad â'r salwch.
Caiff gwobrau am bresenoldeb, y mae llawer o'r plant hyn yn colli cyfle i'w hennill, eu cyflwyno gan ysgolion bob blwyddyn. Mae hyn yn annheg, ac mae hefyd yn gwahaniaethu yn erbyn y plant hyn.
Hoffwn gynnig bod Llywodraeth Cymru naill ai'n cyflwyno
ystyriaethau ar gyfer y plant hyn, neu'n cynghori awdurdodau lleol
ac ysgolion na ddylid rhoi gwobrau am bresenoldeb.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad